New builds

TREGARN ABERMAW

Addasiadau ac estyniad i dŷ gan ddefnyddio’r dulliau a’r deunyddiau canlynol.

Estyniad ffrâm bren y tu ôl i’r eiddo gydag estyniad ychwanegol i ochr orllewinol yr eiddo wedi’i adeiladu mewn dull traddodiadol o frics a blociau. Mae to pob estyniad newydd wedi’i wneud o ddalennau metel sinc, a tho’r prif dŷ wedi’i orchuddio â llechi ail law.

Crëwyd llawer iawn o addasiadau mewnol a 6 ystafell ymolchi ychwanegol, a throswyd yr atig yn bedwaredd ystafell wely. Gosodwyd ffenestri a drysau o amrywiol ddeunyddiau, rhai mewn alwminiwm ac eraill mewn pren traddodiadol. Gwnaethpwyd grisiau troellog pwrpasol hefyd fel prif nodwedd yr eiddo. Cynlluniwyd cegin newydd gan gynnwys gosod Aga newydd a gosod 3 stôf goed mewn gwahanol ystafelloedd. Gosodwyd amrywiol orffeniadau llawr megis lloriau parquet, teils chwarel, estyll llawr traddodiadol a lloriau concrit caboledig. Cafodd yr eiddo hwn ei ailweirio’n llawn a gosodwyd gwres canolog olew newydd a gwres dan y llawr.

Yn allanol, crewyd nifer o lwybrau palmantog a rampiau a nifer o waliau cynnal o gerrig.

Y Bwthyn Pen Y Bryn

Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6RW

Call us

01766 771183